English

 

Celyn (Cysgu 2)

Llofft Galeri gyda gwely maint brenin
Stôf losgi coed
Cegin gyda’r holl offer
Ystafell fwyta ac eistedd cynllun agored
Bath yn sefyll ar ei draed ei hun
Mynedfa drws stabl

» Hafan » Bythynnod » Celyn
 

Camwch i mewn i’n bwthyn 1 llofft drwy’r cwrt a drws stabl i gegin ac ystafell fwyta / eistedd cynllun-agored hyfryd a charismatig. Mae nenfwd o drawstiau derw ffrâm ‘A’ bwaog uchel dros yr ardal eistedd yn ymestyn at lofft galeri wych uwchben y gegin. Mae llawr llechen traddodiadol i’r llawr isaf gyda gwres dan y llawr.

Llawr Isaf

Mae unedau hufen modern yn y gegin gyda wal llechen, hob a phopty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a phopty microdon. Mwynhewch eich bwyd ar ein bwrdd bwyta derw gyda dwy gadair dderw cefn uchel. Cewch ddadflino ar ein cadeiriau breichiau lledr o flaen stôf goed gyfoes neu ymlacio gydag adloniant chwaraewr DVD neu deledu sgrîn wastad. Mae’r ystafell gawod i lawr grisiau yn cynnwys swît wen, cawod, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae grisiau yn arwain i lofft galeri anhygoel gyda thrawstiau derw agored, lloriau derw, dodrefn derw a bath dwfn sy’n sefyll ar ei draed ei hun. Mae gan y gwely dwbl maint brenin le cuddiedig i hongian dillad y tu ôl i ben y gwely. Bydd y golygfeydd godidog drwy’r ffenestri velux o gefn gwlad agored yn coroni eich arhosiad mewn llety 5 seren go iawn.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r ardal eistedd i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; y mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeëdig. Gallwch ddadlwytho eich car wrth y bwthyn ac mae lle parcio gerllaw.

Cysylltwch â ni nawr i holi am brisiau ac i weld os yw’r llety ar gael

Cliciwch y botwm chwarae i weld taith fideo o Fwthyn Celyn

 

 





  • Gwely a Brecwast ar gael
  • Mae dillad gwely a thywelion yn cael eu darparu
  • Mae gwres dan y llawr yn cael ei gynnwys yn y pris.
  • Darperir basged o goed tân i’r stôf a gallwch brynu rhagor gan y perchennog am gost.
  • Mae cot teithio, cadair uchel a giât grisiau ar gael ar gais.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.
  • Mae cyfleusterau golchi dillad a rennir ar gael ar gyfer y tri bwthyn gyda pheiriannau golchi a sychu (mynediad 24 awr)