English

 

Onnen (Cysgu 4)

Cegin ac ystafell fyw siâp ‘L’
Lle tân trawst derw
Cegin gyda’r holl offer
Bath yn sefyll ar ei draed ei hun
Mynedfa drws stabl
Soffa a chadeiriau breichiau lledr

» Hafan » Bythynnod » Onnen
 

Camwch i mewn i’n bwthyn 2 lofft drwy gwrt a drws stabl i mewn i gegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw cynllun agored gyda lloriau llechen a matiau. Mae nenfwd bwaog uchel yn yr ardal fwyta a galeri ar y llawr cyntaf gyda llwybr cerdded rhwng y ddwy lofft.

Llawr Isaf

Mae ystod o unedau hufen modern wedi eu ffitio yn y gegin gyda wal llechen. Mae hob a phopty trydan a pheiriant golchi llestri integrol, yn ogystal â phopty microdon ac oergell/rhewgell. Y mae bwrdd bwyta derw a 4 cadair yn yr ardal fwyta.

Mae stôf goed o fewn lle tân trawst derw yn y lolfa fawr. Mae wedi ei dodrefnu gyda dwy soffa ledr a chadair freichiau, bwrdd coffi, teledu sgrîn wastad, chwaraewr DVD a dodrefn. Yn yr ystafell gawod mae cawod gornel, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae dwy lofft ensuite. Mae nenfwd bwaog trawst derw gyda llawr derw yn y brif ystafell wely sydd wedi ei dodrefnu gyda wardrob, gwely dwbl maint brenin gyda’r pen yn cuddio bath cyfoes sy’n sefyll ar ei draed ei hun a sinc. Ceir toiled ar wahân.

Yn yr ail lofft mae dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd i ffurfio gwely 6 troedfedd anferth maint brenin drwy wneud cais wrth archebu lle) a dodrefn llofft derw. Mae ystafell gawod ensuite gyda chiwbicl cawod, toiled a basn golchi dwylo. Ceir golygfeydd godidog o gefn gwlad agored drwy’r ffenestri velux.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r ardal fwyta i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeëdig.

Cysylltwch â ni nawr i holi am brisiau ac i weld os yw’r llety ar gael

Cliciwch y botwm chwarae i weld taith fideo o Fwthyn Onnen

 





  • Gwely a Brecwast ar gael
  • Mae dillad gwely a thywelion yn cael eu darparu
  • Mae gwres dan y llawr yn cael ei gynnwys yn y pris.
  • Darperir basged o goed tân i’r stôf a gallwch brynu rhagor gan y perchennog am gost.
  • Mae cot teithio, cadair uchel a giât grisiau ar gael ar gais.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.
  • Mae cyfleusterau golchi dillad a rennir ar gael ar gyfer y tri bwthyn gyda pheiriannau golchi a sychu (mynediad 24 awr).