English

 

Derwen (Cysgu 6)

Stôf losgi goed
Cegin gyda’r holl offer
Ystafell fwyta ac eistedd cynllun agored
Bath yn sefyll ar ei draed ei hun
Mynedfa drws stabl
Addas ar gyfer gwestai gyda rhwystrau cerdded

» Hafan » Bythynnod » Derwen
 

Camwch i mewn i’n bwthyn 3 llofft drwy gwrt bach a drws stabl i mewn i’r cyntedd a thrwodd i’r gegin/ystafell fwyta ac eistedd cynllun agored gyda llawr llechen a matiau.

Llawr Isaf

Mae unedau hufen modern wedi eu ffitio yn y gegin gyda wal lechen. Mae hob a phopty trydan a pheiriant golchi llestri integrol, yn ogystal â phopty microdon ac oergell/rhewgell. Ceir bwrdd bwyta derw a 6 chadair dderw cefn uchel yn yr ardal fwyta. Mae stôf losgi coed fawr yn y lle tân yn y lolfa agored. Mae wedi ei dodrefnu gyda 2 soffa sy’n eistedd 3, bwrdd coffi, teledu sgrîn wastad, chwaraewr DVD a dodrefn ychwanegol.

Mae’r llofft ar y llawr isaf yn addas ar gyfer gwestai gyda rhwystrau cerdded. Wedi ei dodrefnu gyda dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd i ffurfio gwely 6 troedfedd anferth maint brenin drwy wneud cais wrth archebu lle) a dodrefn llofft derw. Mae ystafell gawod gyda mynediad anabl pwrpasol gerllaw yn cynnwys cawod mynediad anabl, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae dwy lofft arall ar y llawr cyntaf. Yn y brif ystafell wely mae gwely dwbl anferth maint brenin gyda bath a basn golchi dwylo cyfoes wedi eu cuddio tu ôl i ben y gwely a thoiled ar wahân. Mae’r llofft wedi ei dodrefnu gyda wardrob dderw, bwrdd ymbincio a byrddau ochr gwely.

Yn y drydedd lofft mae dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd unwaith eto), wardrob, cist ddillad a byrddau ochr gwely. Y mae ciwbicl cawod, toiled a basn golchi dwylo yn yr ensuite. Y mae ffenestri velux yn y ddwy lofft yn rhoi golygfeydd bendigedig o gefn gwlad agored.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r gegin a’r ardal fwyta i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeedig. Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.

Cysylltwch â ni nawr i holi am brisiau ac i weld os yw’r llety ar gael

Cliciwch y botwm chwarae i weld taith fideo o Fwthyn Derwen

 





  • Gwely a Brecwast ar gael
  • Mae dillad gwely a thywelion yn cael eu darparu
  • Mae gwres dan y llawr yn cael ei gynnwys yn y pris.
  • Darperir basged o goed tân i’r stôf a gallwch brynu rhagor gan y perchennog am gost.
  • Mae cot teithio, cadair uchel a giât grisiau ar gael ar gais.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.
  • Mae cyfleusterau golchi dillad a rennir ar gael ar gyfer y tri bwthyn gyda pheiriannau golchi a sychu (mynediad 24 awr).