English

 

Yn gyfoes, llawn cymeriad a swyn traddodiadol Cymreig mae bythynnod Dolyrychain yn darparu llety hunan ddarpar 5 Seren i hyd at 12 o bobl.

Cliciwch ar y lluniau ar y dde i gael golwg agosach ar y bythynnod.......

» Hafan » Bythynnod
 

Cliciwch ar y lluniau ar y dde i gael golwg agosach ar y bythynnod.......

Cysylltwch â ni i weld os yw’r llety ar gael neu i archebu lle.

Mae Bythynnod Dolyrychain yn cynnig llety traddodiadol ond modern, llawn cymeriad a swyn i westeion. Y mae i bob bwthyn drawstiau derw mawr, drysau a lloriau derw, lloriau llechen gyda gwres daearwresol dan y llawr a stôf llosgi coed.

Y mae dewis o 3 bwthyn i ymwelwyr, sy’n cysgu 2, 4 neu 6 o bobl. Y mae drws rhyng-gysylltiol sydd wedi ei insiwleiddio’n ddwbl ymhob bwthyn, gellir agor y rhain i greu bythynnod i gysgu 12, 10 neu 6 pe bai angen. Fel arall mae’r drysau derw o drwch dwbl yn cadw sŵn allan ac mae’r bolltau ar y ddwy ochr yn sicrhau diogelwch a phreifatrwydd. Mae’r gwelyau twin yn 3 troedfedd a gellir eu gosod gyda’i gilydd i greu gwely 6 troedfedd anferth maint brenin drwy wneud cais wrth archebu lle.

Gwely a Brecwast hefyd ar gael!

 

Celyn

Onnen

Derwen