English

 

Bythynnod hunan ddarpar moethus wedi eu lleoli yng nghanolbarth Ceredigion, gorllewin Cymru.

Llety cyfoes a heddychlon gyda rhai o olygfeydd ac atyniadau gorau’r sir ar garreg y drws.

Cysylltwch nawr i archebu lle!

 

Croeso Cynnes Cymreig i Fythynnod Dolyrychain

Mae bythynnod Dolyrychain yn cynnig lloches heddychlon i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd.

Lleolir ein bythynnod ar fferm ddefaid a bîff gerllaw pentref Pontrhydfendigaid ger Tregaron. Ceir dodrefn ac ategolion cyfoes wedi eu cyfuno’n greadigol i roi llety o safon i’n gwesteion gyda phob cysur modern.

Y mae dewis o 3 bwthyn i ymwelwyr, sy’n cysgu 2, 4 neu 6 o bobl. Y mae drws rhyng-gysylltiol sydd wedi ei insiwleiddio’n ddwbl ymhob bwthyn, gellir agor y rhain i greu bythynnod i gysgu 12. 10 neu 6 pe bai angen.

Beth bynnag sy’n rhoi pleser i chi, mae Bythynnod Dolyrychain yn ganolfan berffaith i’ch gwyliau yng Ngheredigion ac rydych yn sicr o gael croeso cynnes gan Ifan a Iona.