English

 

Mae Dolyrychain yn hafan i gerddwyr a beicwyr, gyda Mynyddoedd Cambria wrth waelod y fferm, a mynyddoedd panoramig Pumlumon i’r gogledd.

Edrychwch ar y map isod i weld ein lleoliad a sut i’n canfod.

» Hafan » Lleoliad
 

Lleolir Fferm Dolyrychain ger Tregaron, tref farchnad fach Gymreig lle gallwch ymweld â Chanolfan Aur Cymru enwog Rhiannon sy’n cynnig anrhegion hyfryd ac oriel gelf fendigedig. Mae Tregaron yn enwog hefyd am y rasus trotian a gynhelir yno, ac fel mae’n digwydd yma ar fferm Dolyrychain y cynhelir y rhain ar y Sadwrn yn dilyn Gŵyl y Banc Mis Mai ac ar benwythnos Gŵyl y Banc Mis Awst yn flynyddol. Y digwyddiad yw’r un mwyaf o’i fath ym Mhrydain ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr!

Ymwelwch â thref Prifysgol Aberystwyth sy’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, troediwch y promenâd neu ewch ar reilffordd drydan Y Graig i fyny Craig y Glais. Am ddiwrnod hudol beth am deithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol o Aberystwyth i galon mynyddoedd Pumlumon – eich cyrchfan fydd Rhaeadrau byd enwog Pontarfynach a Rheidol. Y mae tair tafarn o fewn milltir i’r bythynnod ym Mhontrhydfendigaid.

 



Harbwr Aberaeron



Rhaeadrau Pontarfynach



Tref Aberystwyth