Ystafelloedd Gwely
2
Cysgu
4
Ystafelloedd Ymolchi
3
Llefydd Tân
1

Bwthyn Onnen

Camwch i mewn i’n bwthyn 2 lofft drwy gwrt a drws stabl i mewn i gegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw cynllun agored gyda lloriau llechen a matiau. Mae nenfwd bwaog uchel yn yr ardal fwyta a galeri ar y llawr cyntaf gyda llwybr cerdded rhwng y ddwy lofft.

Llawr Gwaelod

Mae ystod o unedau hufen modern wedi eu ffitio yn y gegin gyda wal llechen. Mae hob a phopty trydan a pheiriant golchi llestri integrol, yn ogystal â phopty microdon ac oergell/rhewgell. Y mae bwrdd bwyta derw a 4 cadair yn yr ardal fwyta.

Mae stôf goed o fewn lle tân trawst derw yn y lolfa fawr. Mae wedi ei dodrefnu gyda dwy soffa ledr a chadair freichiau, bwrdd coffi, teledu sgrîn wastad, chwaraewr DVD a dodrefn. Yn yr ystafell gawod mae cawod gornel, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae dwy lofft ensuite. Mae nenfwd bwaog trawst derw gyda llawr derw yn y brif ystafell wely sydd wedi ei dodrefnu gyda wardrob, gwely dwbl maint brenin gyda’r pen yn cuddio bath cyfoes sy’n sefyll ar ei draed ei hun a sinc. Ceir toiled ar wahân.

Yn yr ail lofft mae dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd i ffurfio gwely 6 troedfedd anferth maint brenin drwy wneud cais wrth archebu lle) a dodrefn llofft derw. Mae ystafell gawod ensuite gyda chiwbicl cawod, toiled a basn golchi dwylo. Ceir golygfeydd godidog o gefn gwlad agored drwy’r ffenestri velux.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r ardal fwyta i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeëdig. Ymlaciwch tu allan yn y twba twym sy'n unigryw i Fwthyn Onnen.Mae coreso i'r plant ddefnyddio'r parc.